Beth yw WISE Network?
Mae WISE Network yn gyfle unigryw i fusnesau ddefnyddio’r wybodaeth a’r cyfleusterau sydd i’w cael ym Mhrifysgol Bangor, Aberystwyth ac Abertawe.
Byddwn yn helpu busnesau i baratoi yn awr ar gyfer cyfleoedd a sialensiau yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau y gellir gweithio yng Nghymru tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.